top of page
CEFNOGAETH

Fy nymuniad yw rhoi cyfle i bawb glywed a dod i adnabod Iesu Grist a thrafod cwestiynau mawr bywyd gan ddefnyddio ein diwylliant, y Celfyddydau Creadigol a’r dychymyg.

Fy ngobaith yw cael fy ariannu gan yr eglwys ar gyfer yr eglwys. Rwy’n bwriadu datblygu adnoddau creadigol newydd, arfogi a galluogi eglwysi i gyflwyno Crist i bobl Cymru mewn ffyrdd gafaelgar a llawn dychymyg.

​

Mae fy ngwaith fel Efengylwr Creadigol yn cael ei ariannu’n rhannol gan Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd, gyda’r gweddill yn dod trwy roddion hael eglwysi, sefydliadau ac unigolion cefnogol. Am y rheswm hwn nid wyf yn codi ffi benodol am y gwasanaethau yr wyf yn eu darparu. Awgrymir cyfradd o £160 y diwrnod (ynghyd â threuliau teithio), ond mae hyn yn gwbl wirfoddol. Gwerthfawrogaf y bydd pob sefyllfa eglwys yn amrywio ac ni fyddem am i'r gost rwystro cyfleoedd ar gyfer efengylu a gwaith efengylu, ac felly mae croeso i chi roi mwy neu lai na hyn, fel y gallwch.

 

I’r rhai sy’n dymuno partneru â mi a’m cefnogi’n fwy rheolaidd, gellir dod o hyd i fanylion yma: www.stewardship.org.uk/partners/20418753

bottom of page